Paratoi ar gyfer asesu plant a phobl ifanc a chynnal yr asesiad

URN: SFJ EA9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyfiawnder Ieuenctid, Ailsefydlu Troseddwyr
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth i baratoi cynlluniau i asesu tebygolrwydd, natur ac enbydrwydd risg sy'n gysylltiedig ag ymddygiad plant a phobl ifanc.

Mae'n cynnwys coladu a chofnodi gwybodaeth i gynllunio a chynnal asesiad o blant a phobl ifanc.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu'r wybodaeth ddiweddaraf am blant a phobl ifanc, eu teulu neu ofalwyr gan gynnwys a ydynt wedi cymryd rhan mewn unrhyw asesiadau blaenorol

2. darparu gwybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar blant a phobl ifanc i baratoi ar gyfer cyfarfodydd

3.asesu'r risgiau neu'r anghenion a nodi unrhyw ffactorau amddiffynnol i chi'ch hun, plant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol

4.esbonio mewn ffyrdd sy'n diwallu anghenion plant, pobl ifanc, eu teulu neu ofalwyr: eich rôl chi a rôl eich sefydliad yr wybodaeth a geisir a'r rhesymau dros ei cheisio

5.esbonio pa wybodaeth y mae angen ei rhannu gydag eraill gan gynnwys y rhesymau dros rannu a chyfyngiadau cyfrinachedd

6.nodi trwy arsylwi:

  • natur yr amgylchedd cartref
  • y perthnasoedd o fewn yr uned deuluol
  • gweithrediad cymdeithasol a datblygiad plant, pobl ifanc a'u teulu neu ofalwr
  • a oes angen asesiad arbenigol ar y plentyn neu'r person ifanc - neu wasanaethau ymyrryd neu driniaeth

7.gwerthuso effaith yr ardal a'r gymuned ar blant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr, gan gynnwys:

  • ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol
  • cryfder adnoddau cymunedol
  • eu hofn o droseddu

8. cadarnhau hawliau teuluoedd a gofalwyr i wneud eu penderfyniadau eu hunain tra'n eu rhybuddio am benderfyniadau a gweithredoedd a allai effeithio ar eraill

9.nodi'r rhwydweithiau sydd gan blant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr yn y gymuned ehangach

10.trefnu unrhyw asesiad arbenigol, os nodwyd un

11.asesu parodrwydd ymatal y plentyn neu'r person ifanc gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael a hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar gryfderau

12.nodi camau i fynd i'r afael â ffactorau risg a gwella ffactorau amddiffynnol ar gyfer plant a phobl ifanc:

13.cadarnhau’r cyfle ar gyfer ymarfer adferol a chynnwys eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol

14.paratoi cynlluniau ac ystyried safbwynt y plentyn neu'r person ifanc ar y broses newid

15.cynnwys plant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr ar adegau priodol yn ystod y broses gynllunio

16.adolygu a chytuno ar gynlluniau gyda phobl eraill briodol

17.darparu gwybodaeth am y cymorth a'r gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael yn unol â phrosesau unigol a sefydliadol

18.canfod a oes angen i gynlluniau alinio â sefydliadau neu wasanaethau eraill

19.cytuno â phobl eraill berthnasol y pwyntiau adolygu ar gyfer cynlluniau, a chyfrifoldebau am wneud i'r rhain ddigwydd

20.cytuno ar opsiynau priodol ac opsiynau a ffafrir gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion

21.darparu cymorth ac anogaeth briodol i deuluoedd neu ofalwyr yn eu perthynas â phlant a phobl ifanc

22.cadw cofnodion cywir a chyfredol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol |


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol
    i’ch sefydliad ei hun ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud
  2. yr offer asesu perthnasol a ddefnyddir wrth wneud asesiadau o blant a phobl ifanc
  3. strategaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer datblygu cynlluniau ac effaith y rhain ar eich cynlluniau eich hun
  4. yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer asesu plant a phobl ifanc, sy'n briodol i reoli eu risg o droseddu neu aildroseddu
  5. egwyddorion ymarfer sy'n cael ei arwain gan risg yn seiliedig ar ddisgrifiadau penodol o risg o ran ymddygiad ac amgylchiadau
  6. ffynonellau gwybodaeth berthnasol am blant a phobl ifanc a sut i gael gafael ar y rhain
  7. dulliau ar gyfer gwirio a chadarnhau'r wybodaeth a geir
  8. sut i wahaniaethu rhwng tystiolaeth a arsylwyd yn uniongyrchol, tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy ac achlust
  9. sut i ddylunio a datblygu cynlluniau a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc
  10. y cysyniadau allweddol sy'n sail i ymatal a'r broses newid
  11. ffactorau i'w hystyried wrth ddatblygu a chytuno ar gynlluniau
  12. gweithdrefnau a dulliau i asesu a rheoli ffactorau risg gan gynnwys defnyddio systemau asesu risg
  13. materion y gall plant a phobl ifanc eu hwynebu gyda chynlluniau a strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â'r rhain
  14. yr ystod o opsiynau sydd ar gael ar gyfer goruchwylio a rheoli plant a phobl ifanc yn y gymuned
  15. eich rôl a'ch cyfrifoldebau ac ymhle i ofyn am gyngor neu gymorth os oes angen
  16. natur a strwythur teuluoedd a gofalwyr ac amrywiaeth y rhain mewn gwahanol gyd-destunau a diwylliannau
  17. arwyddocâd y berthynas rhwng teuluoedd a gofalwyr a phlant a phobl ifanc, ac yn enwedig rhwng rhieni a phlant
  18. y dylanwadau cyffredinol, personol, cymdeithasol-ddiwylliannol, economaidd a seicolegol sy'n effeithio ar brofiad a phroses rhianta gan gynnwys sut mae profiadau plant a phobl ifanc o gael eu magu gan eu rhieni yn effeithio ar sut y byddant yn rhianta eu hunain
  19. effaith yr amgylchedd cymdeithasol ehangach ar deuluoedd a gofalwyr a phlant a phobl ifanc, gan gynnwys:

    • ardaloedd o amddifadedd materol, troseddu ac ofn troseddu
    • tai gwael
    • tlodi

20.anghenion aelodau o'r teulu gan gynnwys iechyd meddwl a defnyddio sylweddau, ac effaith yr anghenion hyn ar blant a phobl ifanc

21.natur ymddygiad y glasoed a ffyrdd o weld hyn yn gadarnhaol

22 rôl eich sefydliad a'i wasanaethau a sut maent yn ymwneud ag asiantaethau a gwasanaethau eraill yn y sector

23.sgiliau datblygu a rhianta gan gynnwys sgiliau corfforol, gwybyddol, emosiynol,  cymdeithasol a chyfathreb

  1. sut i nodi ac ymateb i bryderon diogelu

25.mathau o gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc

26.sut i gyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion

27.sut i greu amgylchedd sy'n tawelu meddyliau unigolion

28.effaith trawma ar blant a phobl ifanc a sut i sicrhau bod eich ymarfer yn ystyried hyn

29.sut i gymhwyso ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn eich maes gwaith

  1. egwyddorion ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac sy’n seiliedig ar gryfderau

31.egwyddorion cyfiawnder adferol

32.ymddygiadau sy'n dangos gwerth i eraill

33.ymhle i gael cyngor ar yr arfer diweddaraf ar niwrowahaniaeth

34.pam mae'n bwysig cytuno ar nodau, amcanion a dyddiadau cau

35.sut i reoli gelyniaeth ac ymddygiad ymosodol mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo perthynas waith dda ac yn gwarchod eich diogelwch personol

36.sut y gall diwylliant, rhywedd a chredoau effeithio ar agweddau ac ymddygiad a sut y gallant gael eu hystyried gan erail

37.pam dylech chi gadw at godau proffesiynol neu safonau ymarfer

38.sut i drefnu gwybodaeth mewn ffyrdd a fydd yn eich helpu i'w dadansoddi, a'r fformat sy'n ofynnol wrth roi gwybodaeth

39.polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJEA7, SFJEA9, SFJED5 a SFJED6

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid, Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid, Ymarferydd Cyfiawnder Ieuenctid, Rheolwr Tîm Troseddwyr Ifanc

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Asesiad a arweinir gan risg; asesu; rhwydwaith, teulu, ymddygiad, cymorth